Neidio i'r cynnwys

Pêl Aur

Oddi ar Wicipedia
Pêl Aur
Enghraifft o:gwobr chwaraeon Edit this on Wikidata
MathTlws, digwyddiad sy'n ailadrodd Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1956 Edit this on Wikidata
Enw brodorolBallon d'Or Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.francefootball.fr/ballon-d-or/ Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/023jhh edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r Bêl Aur (Ffrangeg: Ballon d'Or, ynganu: [balɔ̃ dɔʁ]) yn wobr bêl-droed flynyddol a gyflwynir gan y cylchgrawn Ffrengig France Football ers 1956. Mae'n anrhydeddu'r pêl-droediwr y bernir iddo berfformio orau dros y tymor blaenorol.

Yn wreiddiol, roedd y wobr yn cael ei hadnabod fel gwobr Pêl-droediwr Ewropeaidd y Flwyddyn, gan mai dim ond i chwaraewyr Ewropeaidd y cafodd ei dyfarnu. Ym 1995, ehangodd i gynnwys yr holl chwaraewyr a oedd yn chwarae mewn clybiau Ewropeaidd ac yn 2007 daeth yn wobr fyd-eang i bêl-droedwyr proffesiynol.

Y chwaraewr gyda'r mwyaf o Beli Aur yw Lionel Messi o'r Ariannin gydag wyth gwobr, ac yna Cristiano Ronaldo o Bortiwgal gyda phump. Ronaldo yw'r chwaraewr sydd wedi cael ei enwebu fwyaf, gyda 18 enwebiad. Ousmane Dembélé o Ffrainc yw deiliad presennol y wobr, ar ôl ennill y wobr yn 2025.

Gwobrau yn cael eu cyflwyno yn seremoni'r Bêl Aur

[golygu | golygu cod]

Gwobrau tymhorol

[golygu | golygu cod]
Gwobr Enwyd ar ôl Gwobr gyntaf Dyfarnwyd i'r Deiliad presennol
Pêl Aur — 1956 Chwaraewr gwrywaidd gorau'r tymor blaenorol Baner Ffrainc Ousmane Dembélé (PSG)
Pêl Aur Merched — 2018 Chwaraewraig orau'r tymor blaenorol Baner Sbaen Aitana Bonmatí (Barcelona)
Tlws Kopa Baner Ffrainc Raymond Kopa Dynion: 2018
Merched: 2025
Chwaraewr gorau dan 21 y tymor blaenorol Dynion: Baner Sbaen Lamine Yamal (Barcelona)
Merched: Vicky López (Barcelona)
Tlws Iashin Baner Undeb Sofietaidd Lef Iashin Dynion: 2019
Merched: 2025
Gôl-geidwad gorau'r tymor blaenorol Dynion: Baner Yr Eidal Gianluigi Donnarumma (PSG)[a]
Merched: Baner Lloegr Hannah Hampton (Chelsea)
Tlws Gerd Müller Baner Yr Almaen Gerd Müller Dynion: 2021 (Ymosodwr y Flwyddyn)
Dynion: 2022 (Tlws Gerd Müller)
Merched: 2025
Ymosodwr gorau'r tymor blaenorol Dynion: Baner Sweden Viktor Gyökeres (Sporting Lisbon)[b]
Merched: Baner Gwlad Pwyl Ewa Pajor
Gwobr Sócrates Baner Brasil Sócrates 2022 Pêl-droedwyr sydd wedi gwneud gwaith dyngarol Baner Sbaen Jenni Hermoso (Tigres)
Clwb Dynion y Flwyddyn — 2021 Clwb dynion sy'n perfformio orau y tymor blaenorol Baner Ffrainc PSG
Clwb Merched y Flwyddyn — 2023 Clwb merched sy'n perfformio orau y tymor blaenorol Baner Lloegr Arsenal
Hyfforddwr Dynion y Flwyddyn — 2024 Hyfforddwr gorau tîm dynion y tymor blaenorol Baner Sbaen Luis Enrique (PSG)
Hyfforddwr Dynion y Flwyddyn — 2024 Hyfforddwr gorau tîm merched y tymor blaenorol Baner Yr Iseldiroedd Sarina Wiegman (Lloegr)

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Nodynau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Pan enillodd Donnaruma y wobr roedd yn chwarae i Manchester City, ond rhoddwyd y wobr am ei berfformiad yn PSG y tymor blaenorol.
  2. ↑ Pan enillodd Gyökeres y wobr roedd yn chwarae i'r Arsenal, ond rhoddwyd y wobr am ei berfformiad yn Sporting y tymor blaenorol.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]