München
| Arwyddair | Weltstadt mit Herz |
|---|---|
| Math | tref goleg, dinas fawr, residenz, metropolis, canolfan ariannol, bwrdeistref trefol yr Almaen, urban district of Bavaria, local government in Germany, prif ddinas ranbarthol |
| Enwyd ar ôl | mynach |
| Poblogaeth | 1,510,378 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | Solang der alte Peter |
| Pennaeth llywodraeth | Dieter Reiter, Christian Ude, Georg Kronawitter, Georg Kronawitter, Erich Kiesl, Josef Schmid, Christine Strobl, Hans-Jochen Vogel, Thomas Wimmer, Karl Scharnagl, Karl Fiehler, Karl Scharnagl, Eduard Schmid, Wilhelm Ritter von Borscht, Johannes von Widenmayer, Alois von Erhardt, Kaspar von Steinsdorf, Jacob Bauer, Josef von Teng, Franz Paul von Mittermayr, Franz Paul von Mittermayr, Jörg Kazmair, Dominik Krause |
| Gefeilldref/i | |
| Nawddsant | Benno |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 310.71 km² |
| Uwch y môr | 519 ±1 metr |
| Gerllaw | Isar, Isar-Werkkanal, Würm, Eisbach, Auer Mühlbach, Kleinhesseloher See, Dreiseenplatte, Kleine Isar, Nymphenburg Canal, Schwabinger Bach |
| Yn ffinio gyda | Munich District, District of Dachau, District of Fürstenfeldbruck, Garching bei München, Q55278376, Q55278629, Neubiberg, Oberschleißheim, Ismaning, Unterföhring, Aschheim, Feldkirchen, Haar, Putzbrunn, Unterhaching, Grünwald, Pullach, Neuried, Planegg, Gräfelfing, Karlsfeld |
| Cyfesurynnau | 48.1375°N 11.575°E |
| Cod post | 80331–81929, 85540 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Munich |
| Pennaeth y Llywodraeth | Dieter Reiter, Christian Ude, Georg Kronawitter, Georg Kronawitter, Erich Kiesl, Josef Schmid, Christine Strobl, Hans-Jochen Vogel, Thomas Wimmer, Karl Scharnagl, Karl Fiehler, Karl Scharnagl, Eduard Schmid, Wilhelm Ritter von Borscht, Johannes von Widenmayer, Alois von Erhardt, Kaspar von Steinsdorf, Jacob Bauer, Josef von Teng, Franz Paul von Mittermayr, Franz Paul von Mittermayr, Jörg Kazmair, Dominik Krause |
![]() | |
| Cost | 9,537,567,400 Ewro |

Dinas yn ne'r Almaen ac yn brifddinas talaith Bafaria yw München (Bafareg: Minga).
Gyda phoblogaeth o 1.36 miliwn yn Rhagfyr 2006, München yw trydedd ddinas yr Almaen o ran poblogaeth; dim ond Berlin a Hamburg sy'n fwy. Dim ond 24,000 oedd y boblogaeth yn 1700, ond ers hynny mae'r boblogaeth wedi dyblu bob 30 mlynedd. Mae hefyd yn un o ddinasoedd cyfoethocaf Ewrop. Ystyr yr enw yw "mynachod", ac mae'r ffigwr ar bais arfau'r ddinas yn cynrychioli mynach.
Ceir y sôn cyntaf am y ddinas mewn dogfen yn 1158, pan oedd pont dros Afon Isar gerllaw mynachdy Benedictaidd. Pan ad-unwyd Bafaria yn 1506 daeth München yn brifddinas, ac yn 1806 daeth yn brifddinas Teyrnas Bafaria. Rhwng y ddau ryfel byd, yn München y cododd y Natsïaid a'u harweinydd Adolf Hitler i amlygrwydd. Yn 1923 ceisiodd ef a'i gefnogwyr gipio grym yma, ond methodd a charcharwyd ef.
Yng nghanol y ddinas mae'r Marienplatz, gyda Neuadd y Ddinas gerllaw. Yr adeilad enwocaf yma yw eglwys gadeiriol Gatholig y Frauenkirche. Mae nifer o dimau pêl-droed yn y ddinas, yn cynnwys yr enwocaf o glybiau pêl-droed yr Almaen, FC Bayern Munich. Cynhaliwyd y Gemau Olympaidd yma yn 1972. Mae'r ddinas hefyd yn enwog am yr Oktoberfest, sydd, er gwaethaf ei enw, yn cael ei gynnal ym mis Medi, gan orffen ar y Sul cyntaf yn Hydref.
Enw'r ddinas
[golygu | golygu cod]Yn Bafareg, sef iaith gynhenid Bafaria ac Awstria, enw'r ddinas yw Minga /ˈmɪŋ(ː)ɐ/, tra mai München /ˈmʏnçn̩/ yw'r enw mewn Almaeneg safonol. A hithau'n ddinas bwysig a hanes hir iddi, mae enwau arbennig iddi mewn nifer o ieithoedd Ewropeaidd, megis Munich yn y Ffrangeg a'r Saesneg, a Monachium yn y Bwyleg ac yn Lladin.

Pobl enwog o München
[golygu | golygu cod]- Andreas Baader, 1943 - 1977, chwyldroadwr
- Franz Beckenbauer, ganed 1945, pêl-droediwr
- Eva Braun, 1910 - 1945, cariad Adolf Hitler
- Leon Feuchtwanger, 1884 - 1958, awdur
- Heinrich Himmler, 1900 - 1945, prif awdur yr Holocost.
- Josef Dieter 'Sepp' Maier, ganed 1944, pêl-droediwr
- Gerhard 'Gerd' Müller, ganed 1945, pêl-droediwr
- Carl Orff, 1895 - 1982, cyfansoddwr
- Franz Josef Strauß, 1915 - 1988, Arlywydd Bafaria
- Richard Strauss, 1864 - 1949, cyfansoddwr
