Baner Liberia

Mabwysiadwyd baner genedlaethol Liberia ar 26 Gorffennaf 1847,[1] ac mae'n seiliedig ar faner yr Unol Daleithiau gan adlewyrchu sefydliad Liberia fel mamwlad i gaethweision Affricanaidd-Americanaidd rhydd. Mae'r canton glas yn cynrychioli Affrica, a'r seren wen ynddi'n symboleiddio rhyddid yn tywynnu o'r "Cyfandir Tywyll". Mae'r 11 o stribedi coch a gwyn yn cynrychioli llofnodwyr Datganiad Annibyniaeth Liberia. 10:19 yw cymhareb y faner hon.[1][2] Yn ôl cyfansoddiad y wlad mae glas yn dynodi rhyddid, cyfiawnder a ffyddlondeb, mae gwyn yn symbol o burdeb, glendid a didwylledd, ac mae coch yn cynrychioli dycnwch, dewrder a brwdfrydedd.[3]
Baneri eraill
[golygu | golygu cod]- Baner Gwasanaeth y Tollau Liberia
- Ystondord Arlywydd Liberia
- Baner Unol Daleithiau America (1837–1845), gyda 26 seren / talait a ddefnyddiwyd yn llywodraeth gyntaf Cymanwlad Liberia tan 26 Ebrill 1845
- Baner Cymdeithas Wladychu Americanaidd (American Colonization Society)
- Baner Gweriniaeth Maryland (Republic of Maryland) rhwng 1854 a 1857
Baneri Siroedd
[golygu | golygu cod]Mae Liberia wedi ei isrannu i 15 sir, pob un gyda'r hawl i'w baner ei hun. Mae pob baner siroedd yn cynnwys y faner genedlaethol yn y canton. Ceir y baneri sirol eu hedfan o swyddfeydd rhanbarthol a gyda'i gilydd gyda'r faner genedlaethol, yn amgylchynu y Palas Arlywyddol.
Gyff Gwawd
[golygu | golygu cod]Mae dyluniad baneri sirol Liberia yn destun gyff gwawd yn y maes baneriaeth a dylunio. Ceir sawl erthygl neu fideo [4] yn gwneud hwyl ar y diffyg cymuseredd, defnydd anghyffredin o liwiau a delweddau anaddas, neu, annisgwyl, ym maes dylunio baneri. Gellir dadlau hefyd bod nifer o'r baneri yn torri rheolau dylunio a lliw, gan gynnwys Rheol Tintur.
Serch hynny, dadleua eraill bod y dyluniadau yn adrodd hanes y siroedd; eu bod yn syml heb fod yn ddiflas fel baneri gwladfeydd Prydain neu faneri taleithiau yr Unol Daleithiau sy'n cynnwys ysgrifen; a nodir, os nad dim arall, bod y dyluniadau yn unigryw e.e. llain borffor baner sir Bomi.[5]
- Baner sir Bomi
- Baner sir Bong
- Baner sir Gbarpolu
- Baner sir Grand Bassa
- Baner sir Grand Cape Mount
- Baner sir Grand Gedeh
- Baner sir Grand Kru
- Baner sir Lofa
- Baner sir Margibi
- Baner sir Maryland
- Baner sir Montserrado
- Baner sir Nimba
- Baner sir Rivercess
- Baner sir River Gee
- Baner sir Sinoe
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 Complete Flags of the World (Llundain, Dorling Kindersley, 2002), t. 84.
- ↑ Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Anness, 2010), t. 218.
- ↑ (Saesneg) Flag of Liberia. The World Factbook. CIA. Adalwyd ar 4 Mehefin 2013.
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=RzPH4jNvuKA
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=Ys5BrgeUYXg
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Liberia (Flags of the World)
