Neidio i'r cynnwys

Ffrio

Oddi ar Wicipedia
Ffrio toesenni.

Coginio bwyd mewn braster neu olew poeth yw ffrio.[1][2] Y ddwy brif dechneg yw ffrio mewn padell fas dros dân, a ffrio mewn llestr dwfn gan drochi'r bwyd yn llwyr mewn olew poeth. Gan y defnyddir saim i wresogi'r bwyd, mae rhai yn ei hystyried yn dechneg o goginio sy'n defnyddio gwres sych.[3]

Caiff cigoedd brasterog megis bacwn a chig eidion mâl eu ffrio gan amlaf mewn eu toddion. Yn aml dodir cig gyda llai o fraster, pysgod, a llysiau mewn blawd neu gytew cyn eu ffrio. Yn ogystal â'r brasterau traddodiadol – toddion cig eidion, menyn a bloneg – defnyddir hefyd olewon corn, cnau a hadau i ffrio.[3]

Dulliau

[golygu | golygu cod]

Ffrio bas

[golygu | golygu cod]

Ffrio gydag ychydig o fraster mewn padell neu lestr bas yw ffrio bas.[4]

Ffrio dwfn

[golygu | golygu cod]

Ffrio drwy drochi'r bwyd yn llwyr mewn olew yw ffrio dwfn.[5]

Ffrio sych

[golygu | golygu cod]

Coginio bwydydd brasterog mewn padell nad yw'n glynu ac heb ragor o fraster yw ffrio sych.[6]

Tro-ffrio

[golygu | golygu cod]

Ffrio darnau bychain o fwyd yn gyflym mewn ychydig o fraster ar wres uchel, a'u troi'n gyson, yw tro-ffrio.[7] Gwneir yn aml mewn woc.[8]

Ffrio'n ysgafn

[golygu | golygu cod]

Coginio mewn ychydig o fraster ar wres uchel, gan ysgwyd y badell yn gyson, yw ffrio'n ysgafn.[9] Caiff y cig neu lysiau eu brownio mewn ychydig o fenyn, saim llysiau, neu olew.[3] Ceir padell arbennig gydag ochrau syth a gwaelod llydan ar gyfer ffrio'n ysgafn.[10]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. S. Minwel Tibbott. Geirfa'r Gegin (Amgueddfa Werin Cymru, 1983), t. 102.
  2.  ffrio. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 29 Mehefin 2015.
  3. 1 2 3 (Saesneg) frying. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mehefin 2015.
  4. Geiriadur yr Academi, [frying: shallow frying].
  5. Geiriadur yr Academi, [frying: deep fat frying].
  6. Geiriadur yr Academi, [frying: dry frying].
  7. Geiriadur yr Academi, [stir: stir-fry].
  8. Good Housekeeping Food Encyclopedia (Llundain, Collins & Brown, 2009), t. 449.
  9. Geiriadur yr Academi, [sauté].
  10. Good Housekeeping Food Encyclopedia (Llundain, Collins & Brown, 2009), t. 450.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: