Adeilad Empire State
Gwedd
| Math | adeilad swyddfa, nendwr, atyniad twristaidd |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Empire State |
| Agoriad swyddogol | 1 Mai 1931 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Seven Wonders of the Modern World |
| Lleoliad | Midtown Manhattan |
| Sir | Manhattan |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 2,248,355 ft² |
| Cyfesurynnau | 40.7483°N 73.9856°W |
| Cod post | 10118 |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Art Deco |
| Perchnogaeth | Empire State Realty Trust |
| Statws treftadaeth | National Historic Landmark, lleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA, Tirnod yn Ninas Efrog Newydd, New York State Register of Historic Places listed place |
| Cost | 40,948,900 $ (UDA) |
| Manylion | |
| Deunydd | dur, calchfaen, bricsen, sment |
Nendwr yn Ninas Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau yw Adeilad Empire State. Saif lle mae Fifth Avenue yn croesi West 34th Street. Mae ganddo 102 o loriau, a rhwng dyddiad ei orffen yn 1931 a gorffen adeiladu Twr Gogleddol Canolfan Fasnach y Byd yn 1972, ef oedd yr adeilad talaf yn y byd. Wedi i'r tŵr hwnnw gael ei ddinistrio yn ymosodiadau 11 Medi 2001, daeth Adeilad Empire State yn adeilad talaf Efrog Newydd unwaith eto, er fod nifer o adeiladau talach yn y byd bellach.
